1: Dewiswch rywun neu rywbeth sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd a/neu rywiol. Gallai fod yn unigolyn, ymgyrch, sefydliad, blog neu femyn. Os nad ydych yn siŵr, darllenwch fwy am yr adegau neu’r symudiadau a greodd newid yn ein Chwilair Ffeministiaid neu ein Croesair Ffeministiaid.
2: Ysgrifennwch ddarn byr am yr adeg neu’r ymgyrch a ddewisoch. Tynnwch lun i gyd-fynd ag ef.
3: Piniwch eich crewyr newid at yr ardal neu’r wlad lle maen nhw’n gwneud gwahaniaeth.
4: Os ydych chi’n gweithio mewn grŵp mawr, neu dros amser, ceisiwch ddod o hyd i enghraifft ar gyfer pob gwlad.
Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.